RWE announces winners of global offshore wind co-use competition
12.12.2024
Heddiw, mae RWE wedi datgelu llwyfan ar-lein newydd pwysig a fydd wrth galon ei uchelgais i wireddu gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd, oddi ar arfordir de Cymru a de-orllewin Lloegr.
Bydd y wefan yn dod yn ganolbwynt ar gyfer newyddion am y prosiect, gwybodaeth, addysg ac ymgysylltu â busnesau, cymunedau, rhanddeiliaid ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am dechnoleg ar y môr ac uchelgais RWE o ran y Môr Celtaidd. Mae’r cwmni ar flaen y gad o ran datblygu gwynt arnofiol ar draws y byd, ac mae mewn sefyllfa dda i wneud y mwyaf o’r dechnoleg i gefnogi swyddi a sgiliau newydd a chyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi.
Mae RWE yn paratoi i gyflwyno cynigion yn arwerthiant Ystâd y Goron i brydlesu gwely’r Môr Celtaidd yn ddiweddarach eleni, lle bydd hyd at 4GW o wynt arnofiol yn cael ei ddyfarnu, ac mae disgwyl llawer mwy o gigawatiau yn y dyfodol. Nod y cwmni yw cael o leiaf 1 gigawat (GW) o dechnoleg gwynt arnofiol un ai yn weithredol neu ar y cam adeiladu erbyn 2030.
Wedi’i bwriadu i gychwyn fel porthol cyswllt cyntaf ar gyfer y prosiect a’r tîm profiadol sy’n rhan ohono, bydd y wefan yn fuan iawn yn datblygu’n ganolbwynt mawr i gyfleoedd busnes ac, yn gefn i hynny, datblygir cynllun unigryw ar gyfer y gadwyn gyflenwi a gaiff ei ddatgelu gan RWE yn ddiweddarach y mis hwn. Felly, cadwch lygad am ragor o newyddion a gwybodaeth drwy’r wefan.
Dywedodd Philippa Powell, Cyfarwyddwr Prosiect y Môr Celtaidd RWE: “Rydyn ni’n falch o’n treftadaeth Gymreig, a’r ffaith ein bod ni’n gobeithio dod â’r dechnoleg newydd bwysig hon a’r cyfleoedd gwerth biliynau o bunnoedd a ddaw yn ei sgil i Gymru a rhanbarth y Môr Celtaidd. Drwy ein harbenigedd, ein harloesi mewnol a’r cydweithio allanol, mae gennym allu unigryw i wireddu gwynt arnofiol yn y rhanbarth. Bydd ein gwefan newydd yn adlewyrchu’r prosiect wrth iddo ddatblygu, bydd yn borthol i’r tîm, a dyma fydd yr allwedd i ddatgloi cyfleoedd busnes i’r rhanbarth yn y dyfodol. Cymerwch olwg arni, a chadwch lygad am ein holl newyddion a chyfleoedd yn y dyfodol.”
Dysgu am Wynt Arnofiol: Mae RWE, sy’n ymfalchïo mewn mwy na 120 o flynyddoedd o hanes yng Nghymru, wedi creu fersiwn Gymraeg o’i Ystafell Ddosbarth Rithiol ar Wynt Arnofiol, sy’n cael ei lansio’n swyddogol heddiw i gydnabod Dydd Gŵyl Dewi.
Mae RWE wedi cymryd camau breision tuag at ddod yn arweinydd ym maes gwynt arnofiol ac mae eisoes wedi magu profiad sylweddol drwy nifer o brosiectau arddangos arnofiol uchel eu proffil ar draws y byd. Mae’r cwmni bellach yn defnyddio’r arbenigedd hwn i helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, rhanddeiliaid, cymunedau a busnesau o amgylch y byd i ddeall mwy am y dechnoleg drwy ei Ystafell Ddosbarth Rithiol ar Wynt Arnofiol.
Bellach, mae fersiwn Gymraeg o’r ystafell ddosbarth ar-lein ar gael ac fe geir mynediad iddi drwy wefan newydd Môr Celtaidd RWE yn ogystal â phorthol gwe byd-eang RWE ei hun. Yn ogystal â manylu ar sut mae ffermydd gwynt arnofiol a’r dechnoleg yn gweithio, mae RWE yn cyflwyno ffeithiau allweddol am pam a sut y gellir defnyddio gwynt arnofiol i helpu i gyrraedd targedau allyriadau sero net byd-eang. Mae’r ystafell ddosbarth rithiol yn rhoi atebion i ddefnyddwyr i gwestiynau allweddol fel beth yw gwynt arnofiol? A sut mae tyrbinau gwynt arnofiol yn arnofio ac yn aros yn eu lle? Dysgwch fwy am y dechnoleg a sut mae’n gweithio drwy'r Ystafell Ddosbarth ar Wynt Arnofiol.
Y tu hwnt i’r Môr Celtaidd, uchelgais RWE yw datblygu prosiectau gwynt arnofiol ar raddfa fasnachol ar draws y byd. Mae eisoes wedi sicrhau prydles gwynt arnofiol ar raddfa fasnachol oddi ar arfordir California ac wedi cael ei ddewis fel cynigydd cymwys am ddau brosiect ynni gwynt arnofiol masnachol oddi ar arfordir Ffrainc. Mae hefyd yn paratoi gyda phartneriaid i gymryd rhan yn nhendr gwynt arnofiol Utsira Nord yn Norwy ac yn ymchwilio i wynt arnofiol mewn marchnadoedd Ewropeaidd eraill a rhanbarth APAC.